Acts 15:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC yno y descenawdd ’r ei o Iudaia, ac a ddyscesont y broder, gan ddyvvedyt. Addieithr bot eich enwaedy, herwydd Deddyf Moysen, ny ellwch vot yn cadwedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhyw rai wedi dyfod i wared o Iwdea, a ddysgent y brodyr, Oddieithr amdorri arnoch yn ol defod Mosheh, ni ellwch fod yn gadwedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth rhai i lawr o Iwdea a dechrau dysgu’r brodyr: “Onid enwaedir arnoch yn ôl defod Moesen, ni ellir eich cadw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn i'r credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadw'r ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: "Os nad enwaedir arnoch yn l defod Moses, ni ellir eich achub."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai wedi dyfod i waered o Judea a ddysgasant y brodyr: Onid enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch eich hachub.