Acts 15:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn awr paam ydd ych yn tēpto Dew, wrth ddody iau ar warhae ’r discipulon, yr hwn ny allawdd na ein tadae na ni neu ei ðygy?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr awr hon, gan hyny, paham y temtiwch Dduw, fel y dodech iau ar war y disgyblion, hon nid oedd nac ein tadau na nyni yn gallu ei dwyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn awr, ynteu, paham y rhowch brawf ar Dduw; — dodi ar warr y disgyblion iau na allodd ein tadau na ninnau mo’i dwyn?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau'r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi ei wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu eu cario?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn awr gan hyny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i osod iau ar war y Dysgyblion, yr hon nid oedd ein Tadau na ninau yn alluog ei dwyn.