Acts 15:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd ystawodd yr oll tyrfa, ac y gwrandawsant Barnabas ac Paul, yr ei a vanagent pa arwyddion a’ ryveddodac a wnaethai Dew ymplith y Cenetloed trwyddynt vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thawodd yr holl liaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn mynegi pa faint o arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thawodd yr holl liaws, a gwrandawent ar Farnabas a Phaul yn mynegi gymaint a wnaethai Duw o arwyddion a rhyfeddodau ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thawodd y lliaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn adrodd pa fath arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.