Acts 15:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan yt oedd ymryson nyd bachan, ac ymddadlae gan Paul ac Barnabas yn y erbyn h wy, yno ordeiniaw a wnaethant i Paul ac Barnabas ac yr eill o hanynt, vyned i vyny dd i Caerusalē, at yr Ebestyl a’r henafiait o bleit yr ymofyn hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi digwydd ymryson a chwestiynu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, ordeiniasant esgyn o Paul a Barnabas a rhyw rai eraill o honynt, i Ierwshalem at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan fod ymryson ac ymddadlau nid bychan rhwng Paul a Barnabas a hwythau, penderfynwyd i Baul a Barnabas a rhai eraill ohonynt fynd i fyny at yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem ynghylch y cwestiwn yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a'r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dyma'r eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gyda'r apostolion a'r arweinwyr yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglu375?n 'r cwestiwn yma.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oedd ymryson a dadleu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a drefnasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill o honynt, i fyny i Jerusalem at yr Apostolion a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn.