Acts 15:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
anid bot y ni escennrivy attwynt, a’r ymgadw o hanynt o wrth halogrwydd delwae, a’ godinab, ac yrvvth y dagwyt, ac yrvvth waet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr gorchymyn iddynt ymgadw oddiwrth halogrwydd eilunod, a godineb, ac y peth a dagwyd, a gwaed;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw oddiwrth offrymau halogedig y delwau ac oddiwrth anniweirdeb ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth waed;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi ei lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi eu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr ysgrifenu atynt i ymgadw oddiwrth halogrwydd yr eilunod a godineb, ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac oddiwrth waed.