Acts 15:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gwelwyt vot yn iawn gan yr Apostolion ar Henafiait y gyd a’r oll Eccles, bot anvon gwyr etholedig ion oei plith ehunain i Antiocheia y gyd a Paul ac Barnabas: nid amgen, Iudas aei gyfenw Barsabas, ac Silas, yr ei oeð wyr pennaf ym‐plith y broder,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyda r holl eglwys, wedi ethol dynion o honynt eu hunain, eu danfon i Antiochia ynghyda Paul a Barnabas, sef, Iwdas, yr hwn a elwir Barshabbas, a Silas, dynion rhagorol ymhlith y brodyr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid ynghyd â’r holl eglwys ethol gwŷr o’u nifer a’u hanfon i Antiochia gyda Phaul a Barnabas; sef Iwdas, a elwid Barsabbas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y brodyr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd 'r holl eglwys, ddewis gwu375?r o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwu375?r blaenllaw ymhlith y credinwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y gwelwyd yn dda gan yr Apostolion a'r Henuriaid ynghyda'r holl Eglwys, wedi dewis gwyr o'u plith eu hunain, eu danfon i Antioch gyda Phaul a Barnabas, sef Judas yr hwn a gyfenwir Barsabbas, a Silas, blaenoriaid yn mhlith y brodyr;