Acts 15:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac escriveny llythyrae y gyd ac wynt yn y ffurf hynn. YR APOSTOLON a’r Henafeit, a’r broder, at y broder y syð o’r Cenetloedd yn Antiocheia, ac yn Syria, ac yn Cilicia, yn danvon anerch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ysgrifenu trwyddynt hwy, Yr apostolion a’r brodyr hynaf, at y brodyr yn Antiochia a Syria, a Cilicia, y rhai sydd o’r cenhedloedd, yn anfon annerch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a rhoi llythyr yn eu llaw: “Y brodyr o apostolion a henuriaid, at y brodyr sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Chilicia, henffych well.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a'r henuriaid, a'r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw: Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys. At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia: Cyfarchion!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: "Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ysgrifenu trwy eu llaw hwynt: Yr Apostolion a'r Henuriaid, brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antioch a Syria a Cilicia, yn anfon anerch: