Acts 15:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys clywsam, ddarvot ir ei y ddaethant y wrthym, eich cynnyrfy chvvi a geiriae, a thraws siglaw eich meddyliae, gan dywedyt, Rait y chwi bot eich enwaedy, a’ chadw yr Ddeddyf, ir ei ny roddesem ni gyfryw ’orchymyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd clywed o honom fod rhai a aethant allan oddi wrthym wedi eich trallodi â geiriau, gan ddym-chwelyd eich eneidiau, i’r rhai ni roisom orchymyn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd inni glywed i rai ohonom eich cythryblu ac ansefydlu eich meddyliau â geiriau, heb gael ohonynt orchymyn gennym ni,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw'r ddeddf; i'r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu a'ch ypsetio chi gyda beth maen nhw'n ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu 'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn gymaint a chlywed o honom i rai a aethant allan oddiwrthym ni eich cythryblu chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau, i'r rhai ni roisom orchymyn;