Acts 15:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny yd anvonesam Iudas, ac Sylas, yr ei a venaic hefyt ychwy yr vnryw pethae ar davot leferyð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Danfonasom, gan hyny, Iwdas a Silas, a hwythau ar air a fynegant yr un pethau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Anfonwn gan hynny Iwdas a Silas, i fynegi, hwythau, yr un pethau ar air.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi ei roi yn y llythyr yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydym wedi danfon, gan hyny, Judas a Silas, a hwynt‐hwy trwy leferydd ydynt yn mynegu yr un pethau.