Acts 15:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bot i chwy ymgynnal y wrth y pethae ’ry offrymir y ddelwae, ac ywrth waed, ac ywrth y peth y degir, ac ywrth g odinab: ywrth yr ei a’s ymgadwch, da y gwnewch. Ewch yn iach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sef ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb; oddiwrth y rhai hyn, os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ymgadw oddiwrth yr hyn a aberthwyd i ddelwau ac oddiwrth waed ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth anniweirdeb; o ymochel rhag y pethau hyn bydd yn dda arnoch. Yn iach.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eich bod i beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig unrhyw anifail sydd wedi ei dagu. Hefyd, eich bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol. Byddai'n beth da i chi osgoi y pethau yma. Pob hwyl i chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb: os cedwch eich hunain oddiwrth y pethau hyn, da y gwnewch. Byddwch iach.