Acts 15:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno wedy ei d’anvon wy ymaith gan yr Eccles, traweny a wnaethant trwy Phoinice, ac Samareia, gan vanegy ymchweliat y Cenetloedd: ac wy a dducesont lewenydd inawr ir oll vroder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwy, gan hyny, wedi eu hebrwng gan yr eglwys, a dramwyasant trwy Phenice a Shamaria, dan fynegi troad y cenhedloedd; a pharasant lawenydd mawr i’r holl frodyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly danfonwyd hwynt gan yr eglwys, a theithient trwy Phoenice a Samaria, gan adrodd hanes troi’r cenhedloedd, a pheri mawr lawenydd i’r holl frodyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i'r brodyr oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar eu ffordd yno dyma nhw'n galw heibio'r credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dredigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, wedi eu hebrwng gan yr Eglwys a dramwyasant trwy Phœnicia a Samaria, gan adrodd yn fanwl droedigaeth y Cenhedloedd; a hwy a barasant lawenydd mawr i'r holl frodyr.