Acts 15:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy ei gellwng o yno, wy ddaethant i Antiocheia, ac yn oll cynnull o hanwynt y llyos ogrvvydd, wy y rroddesont yr epistol yddvvynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwy, gan hyny, wedi eu gollwng ymaith a ddaethant i wared i Antiochia; ac wedi cynnull y lliaws ynghyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly hwythau, wedi eu gollwng, deuthant i lawr i Antiochia, a chynullasant y lliaws a throsglwyddo’r llythyr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Paul a Barnabas, Jwdas a Silas yn cael eu hanfon ar eu ffordd, ac yn cyrraedd Antiochia yn Syria. Yno dyma nhw'n casglu pawb at ei gilydd ac yn cyflwyno'r llythyr iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonwyd hwy, felly, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny yn wir, wedi eu gollwng ymaith, hwy a ddaethant i Antioch; ac wedi cynull y lliaws ynghyd, hwy a drosglwyddasant y llythyr;