Acts 15:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Iudas ac Silas ac wynt yn prophwyti, a anogēt y broder ac ymadroð lliosoc, ac ei cadarn h esont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Iwdas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy ymadrodd lawer y cynghorasant y brodyr ac y’u cadarnhasant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Iwdas hefyd a Silas, a hwythau’n broffwydi, anogasant y brodyr trwy lawer gair a’u cadarnhau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gyda'r Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau i'w hannog a chryfhau eu ffydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Judas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy lawer o ymadrodd a galonogasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.