Acts 15:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt drigio ynaw dalm o amser, wy vaðeuwyt yn heddwch y gan y broder at yr Apostolon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi treulio rhyw amser, gollyngwyd hwynt ymaith mewn heddwch oddiwrth y brodyr at y rhai a’u danfonasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt dreulio ysbaid gollyngwyd hwynt mewn tangnefedd gan y brodyr at y sawl a’u danfonodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl aros yn Antiochia am beth amser, dyma'r ddau yn mynd yn ôl i Jerwsalem at y bobl oedd wedi eu hanfon, a hynny gyda bendith Cristnogion Antiochia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt dreulio peth amser fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi treulio rhyw amser, hwy a ollyngwyd mewn tangnefedd oddiwrth y brodyr at y rhai a'u danfonasant.