Acts 15:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ar ol swrn o ddyddiae ysganei Paul wrth Barnabas, Ymchwelwn drachefyn, ac ymwelwn a’n broder ym‐pop dinas, lle precethesam ’air yr Arglwydd, ac edrych paðdelw ydd ynt arnavv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn yn awr ac ymwelwn â’r brodyr ym mhob dinas yn y rhai y mynegasom Air yr Arglwydd, i weled pa sut y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Farnabas, “Dychwelwn yn awr i ymweled â’r brodyr ym mhob dinas y cyhoeddasom air yr Arglwydd, i weld sut y mae arnynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â'n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld â'r credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon ni'n cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, "Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld 'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn ar unwaith ac ymwelwn a'r brodyr yn mhob dinas yn y rhai y cyhoeddasom Air yr Arglwydd, i weled pa fodd y mae arnynt.