Acts 15:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr Paul a dybiawdd nad oedd yn gyfaddas y gymeryd ef yn ei cymddeithas, yr hwn a dynnesei y wrthwynt o Pamphilia, ac nid aethei gyd ac wynt ir gwaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond Paul ni welai yn dda gymmeryd hwnw gyda hwynt, yr hwn a dynnasai oddi wrthynt o Pamphulia,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr hawliai Paul, am un a gefnodd arnynt ym Mhamffylia, ac nad aethai gyda hwynt at eu gwaith, na châi hwnnw fod gyda hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i'r gwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr ni thybiai Paul yn iawn gymeryd gyda hwynt hwnw, yr hwn a wrth‐giliodd oddiwrthynt o Pamphylia, ac nid aeth gyda hwynt i'r gwaith.