Acts 15:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan ddaethant i Gaerusalem, ei d ’erbyniwyt y gan yr Eccles, a’r Apostolion ar Henafieit, ac manegy a ’orugant pa pethae a wnaethai Ddew trwyddwynt vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i Ierwshalem, derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt gyrraedd Caersalem derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a'r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw'n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi cyrhaedd i Jerusalem, hwy a roesawyd gan yr Eglwys a'r Apostolion a'r Henuriaid, a hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt.