Acts 15:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr eb vvynt, yr ei o sect y Pharisaiait, a’r oedd yn credy, a g yv odesont, gan ddywedyt, vot yn angenrait y enwaedy h wy, a’ gorchymyn yddvvynt gadw Deðyf Moysen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyfododd rhai o sect y Pharisheaid, credinwyr, gan ddywedyd, Y mae rhaid amdorri arnynt a gorchymyn cadw Cyfraith Mosheh.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyfododd rhai o sect y Phariseaid — rhai a oedd wedi credu — gan ddywedyd bod yn rhaid iddynt enwaedu, ac erchi cadw deddf Moesen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma rai o'r Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill sy'n dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadw'r ddefod o enwaedu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, "Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oeddent wedi credu, gan ddywedyd, Y mae yn rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw Cyfraith Moses.