Acts 15:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy bot ymddadle mawr, y cyvodes Petr, ac y dyvot wrthwynr, Ha wyr vroder, chwi wyddoch ðarvot er es talm o amser, yn ein plith ni y Ddew vy n ethol i, yn y byðei ir Cenetloeð trwy vy‐genae glywet gair yr Euāgel, a’ chredy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llawer cwestiynu wedi bod, cyfododd Petr, a dywedodd wrthynt, Brodyr, chwi a wyddoch mai yn y dyddiau cyntaf yn eich plith y dewisodd Duw mai trwy fy ngenau i y clywai y cenhedloedd Air yr efengyl a chredu o honynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi bod ymddadlau mawr, dywedodd Pedr wrthynt, “Frodyr, gwyddoch chwi i Dduw er y dyddiau cyntaf ddewis yn eich plith fod i’r Cenhedloedd glywed gair yr efengyl trwy fy ngenau i a chredu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o'r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chi'n cofio fod Duw wedi fy newis i rannu'r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, a'u cael nhw i gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: "Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi llawer o ymddadleu, Petr a gyfododd ac a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, yr ydych yn gwybod ddarfod i Dduw er y dyddiau cyntefig yn eich plith ddewis i'r Cenhedloedd glywed Gair yr Efengyl trwy fy ngenau a chredu.