Acts 16:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy gwelet o hanaw y weledigaeth, yn y van yr ymparatoesam i vynet i Macedonia, gan ein bot yn ddiogel mae yr Arglwydd a’n galwesei y precethy ’r Euangel yddwynt vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welsai efe y weledigaeth, yn uniawn y ceisiasom fyned i Macedonia,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ganfu’r weledigaeth, yn ebrwydd ceisiasom fynd ymaith i Facedonia, gan gasglu bod inni wŷs oddiwrth Dduw i bregethu’r newydd da iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gafodd ef y weledigaeth, rhoesom gynnig ar fynd i Facedonia ar ein hunion, gan gasglu mai Duw oedd wedi ein galw i gyhoeddi'r newydd da iddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan gasglu yn sicr alw o Dduw nyni i efengylu iddynt hwy.