Acts 16:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno mordwyaw a wnaetham o Troas, ac vniongyrch dyvot i Samothracia, a’ thranoeth i Neapolis,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan gasglu alw o’r Arglwydd arnom i efengylu iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi hwylio, ynteu, o Droas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Nea Polis,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ni'n hwylio o borthladd Troas a chroesi'n syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi hwylio o Troas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Neapolis,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi hwylio gan hyny o Troas, ni a redasom yn syth i Samothracia, a thranoeth i Neapolis;