Acts 16:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar y dydd Sabbath, ydd aetham allan o’r dinas gar llaw avon, lle byddit gynefin a gweddiaw: ac eisteðesam y lavvr, ac ymðinasam a’r gwrageð, a ðaethesent yn‐cyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr oeddym ynddi, yn aros ddyddiau rai. Ac ar y dydd Sabbath, aethom allan tu allan i’r porth i lan afon, lle y tybiem yr oedd lle gweddi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ddydd Saboth aethom tu allan i’r porth i lan yr afon, lle y tybiem fod Lle Gweddi; ac wedi eistedd, dechrau llefaru wrth y gwragedd a ddeuthai ynghyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y dydd Saboth aethom y tu allan i'r porth at lan afon, gan dybio fod yno le gweddi. Wedi eistedd, dechreusom lefaru wrth y gwragedd oedd wedi dod ynghyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar y Dydd Sabbath ni a aethom tu allan i'r porth, at lan afon, lle y tybiem yr oedd Lle Gweddi; ac wedi eistedd ni a lefarasom wrth y gwragedd oedd wedi dyfod ynghyd.