Acts 16:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rryw wreic y elwit Lydia, erwerthai burpur, o ðinas y Thyatiriait, yr hon a ddolei Ddew, a wrandawodd arnam: yr hon a egorodd yr Arglwydd hei chalon, i ystyriaw ar y pethae a adroddit gan Paul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi eistedd o honom llefarasom wrth y gwragedd a ddaethent ynghyd. A rhyw wraig a’i henw Ludia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thuateira, un yn addoli Duw, a wrandawai;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyw wraig, a’i henw Lydia, un a werthai borffor, o ddinas Thyatira, ac a addolai Dduw, oedd yn gwrando; ac agorodd yr Arglwydd galon hon i ddal ar yr hyn a leferid gan Baul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw wraig a'i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd un wraig yno o'r enw Lydia — gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn gwrando yr oedd gwraig o'r enw Lydia, un oedd yn gwerthu porffor, o ddinas Thyatira, ac un oedd yn addoli Duw. Agorodd yr Arglwydd ei chalon hi i ddal ar y pethau yr oedd Paul yn eu dweud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw wraig o'r enw Lydia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira, un yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal sylw ar y pethau a leferid gan Paul.