Acts 16:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y batyðio hi, ai thuy lvvyth, ydd ervyniawdd y ni, gan ddywedyt, A’s barnesoch vy‐vot i yn ffyddlawn ir Arglwydd, dewch y mewn im t u y, ac aro s wch yno: a hi a’n cympellawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r Arglwydd a agorodd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. A phan fedyddiwyd hi ac ei theulu, deisyfiodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod yn ffyddlawn i’r Arglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ei bedyddio, hi a’i theulu, cymhellodd ni, gan ddywedyd, “Os barnasoch fod gennyf ffydd yn yr Arglwydd, dowch i mewn, ac arhoswch yn fy nhŷ i.” A hi orfu arnom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i'n ffyddlon i'r Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cymhellodd ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd hi a rhai eraill o'i thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chi'n derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartre i.” A llwyddodd i'n perswadio ni i wneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'i bedyddiwyd hi a'i theulu, ac yna deisyfodd arnom, gan ddweud, "Os ydych yn barnu fy mod yn credu yn yr Arglwydd, dewch i mewn ac arhoswch yn fy nhu375?." A mynnodd ein cael yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan fedyddiwyd hi a'i thy, hi a ddeisyfodd, gan ddywedyd, Os ydych wedi barnu fy mod i yn gredadyn yn yr Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac aroswch. A hi a'n cymhellodd yn daer.