Acts 16:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hon a ddylynei ar ol Paul a’ ni neu, ac a lefei gan ddywedyt, Y dynion hyn yw gweision y Dew goruchaf, yr ei ys y’n dangos yni fforð yr iechyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hon, gan ganlyn Paul a ni, a waeddai, gan ddywedyd, Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, y rhai sy’n mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canlynai hon Baul a ninnau, a gwaeddai gan ddywedyd, “Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, a mynegant i chwi ffordd iechydwriaeth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Mae'r dynion yma yn weision i'r Duw Goruchaf! Maen nhw'n dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilynodd hon Paul a ninnau, a gweiddi: "Gweision y Duw Goruchaf yw'r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hon, gan ddylyn Paul a ninau, a lefodd allan, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegu i chwi ffordd Iachawdwriaeth.