Acts 16:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ’hynn a wnaeth hi lawer dydd: eithyr Paul yn poenedic ganthaw hyn, a’ led ymchwelodd ac a ddyvot wrch yr yspryt, Gorchymynaf yty yn Enw Iesu Christ vynet allau o hanei. Ac ef a ddaeth al’an yr awr hono.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hyn a wnelai hi lawer o ddyddiau. A Paul yn flin ganddo, a chan droi, a ddywedodd wrth yr yspryd, Gorchymynaf i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi; ac allan y daeth efe yr awr honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyn a wnâi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul, wedi llwyr flino, a droes, a dywedyd wrth yr ysbryd, “Gorchmynnai i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan ohoni.” A daeth allan ar un waith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. Ac efe a aeth allan yr awr honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, "'Rwy'n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni." Ac allan y daeth, y munud hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hyn hi a wnaeth dros ddyddiau lawer. Ond Paul, wedi ei flino allan, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi. Ac efe a ddaeth allan yr awr hono.