Acts 16:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pellach pan welas hi arglwyddi vyned ymaith gobeith y elw hwy, dal ha Paul a’ Sylas a wnaethant, a’ ei llusco ir varchnat va at y Raclawieit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’i meistriaid yr aethai gobaith eu hennill ymaith, wedi cymmeryd gafael ar Paul a Silas, llusgasant hwynt i’r farchnadfa ger bron y llywodraethwyr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu busnes ymaith, daliasant Baul a Silas a’u llusgo i’r farchnadfa ger bron yr awdurdodau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant hwy i'r farchnadfa, at y llywodraethwyr;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd ei meistri fod pob gobaith o wneud elw trwyddi wedi mynd hefyd, dyma nhw'n gafael yn Paul a Silas a'u llusgo o flaen yr awdurdodau yn sgwâr y farchnad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd ei meistri hi fod eu gobaith am elw wedi diflannu, daliasant Paul a Silas, a'u llusgo i'r farchnadfa o flaen yr awdurdodau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i meistriaid hi yn gweled fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant i'r farchnadfa o flaen penaethiaid;