Acts 16:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r tyrfa a gydgodes yn y h’erbyn hwy, a’r llywyawdwyr a rwygesont h’ei dillat, ac a ’orchymynesont ei curaw‐a‐gwiail.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyfododd y dyrfa ynghyd yn eu herbyn hwynt, a’r swyddogion, wedi rhwygo eu cochlau, a orchymynasant eu curo hwy â gwiail.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd y dyrfa gyda’i gilydd yn eu herbyn, ac wedi peri rhwygo’u dillad gorchmynnai’r ynadon eu gwialenodio;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a'r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy â gwiail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dyma'r ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau a'u curo â ffyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna ymunodd y dyrfa yn yr ymosod arnynt. Rhwygodd yr ynadon y dillad oddi amdanynt, a gorchymyn eu curo ffyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn: a'r llywodraethwyr milwrol, gan rwygo eu dillad hwynt, a orchymynasant eu curo hwy â gwiâil.