Acts 16:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy dody llawer gwialennot yddwynt, wy ei tavlesont i garchar, gan ’orchymyn i geidwat y carchar y cadw wy yn ddiescaelus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialennodiau, taflasant hwynt i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddiogel;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi rhoi ergydion lawer iddynt bwriasant hwynt yng ngharchar, gan erchi i geidwad y carchar eu cadw yn ddiogel;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn ar ôl eu curo'n ddidrugaredd, dyma nhw'n eu taflu nhw i'r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i'w gwylio nhw'n ofalus,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi rhoi curfa dost iddynt bwriasant hwy i garchar, gan rybuddio ceidwad y carchar i'w cadw yn ddiogel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialenodiau hwy a'u bwriasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddyogel: