Acts 16:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ddysyfyt y bu daiar‐gryn mawr, yd yn y yscytwyt dy sailiae yr carchar: ac yn ebrwydd yr agores yr oll ddrysae, a’ Rwymae pawp a rydd h awyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn ddisymmwth daeargryn mawr a fu, fel y siglwyd seiliau’r carchardy; ac agorwyd, yn uniawn, y drysau oll, a rhwymau pawb a ddattodwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn ddisymwth bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau’r carchar, ac agorodd yr holl ddrysau yn y fan, a datodwyd rhwymau pawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau'r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn ddisymwth, y bu daear‐gryn mawr, fel y siglwyd sylfaeni y carchardy, ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a ryddhawyd.