Acts 16:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno goarcheidwat y carchar wedy dihuno, pan ganvu ddrws y carchar yn agoret, a dynnawdd ei gleddyf allan, ac a vynnesei ei lað ehun, gan dybieit cilio o’r carcharorion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi deffro o geidwad y carchar, a chan weled drysau’r carchar yn agored, wedi tynnu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied y diengasai y carcharorion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau’r carchar yn agored tynnodd ei gleddyf, ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybied ffoi o’r carcharorion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau'r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o'r carcharorion ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deffrdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau'r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A cheidwad y carchar wedi deffro o gwsg, a gweled drysau y carchar wedi eu hagoryd, wedi tynu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi.