Acts 16:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Paul a lefawdd a ei lawnllef, gan ddywedyt, Na wna ddim drwc yty hun: can ys ydd ym ni yma oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llefain â llef uchel a wnaeth Paul, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwaid, canys yr oll o honom ydym yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond llefodd Paul â llef uchel, gan ddywedyd, “Na wna ddim drwg i ti dy hun, canys yr ydym yma i gyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwaeddodd Paul yn uchel, "Paid gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni oll yma.