Acts 16:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y galwoð ef am ’olae ni, ac y rruthiawdd y mewn ac yd aeth yn echrynedic, ac y dygwyddawdd y lawr geyr‐bron Paul ac Silas,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw am oleu, neidiodd efe i mewn, a than grynu, syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gofyn am olau, rhuthrodd i mewn, a syrthiodd yn ddychrynedig ger bron Paul a Silas;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi galw am oleu, efe a neidiodd i mewn, a than grynu efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,