Acts 16:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny Paul a vynnei iddaw vyned ymaith canthaw, ac ei cymerth ac ei enwaedawdd, o bleit yr Iuddaeon y oedd yn y lleoedd hyny: can ys gwyddynt pawp, vot ei dat ef yn g roecwr:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn yr ewyllysiodd Paul iddo fyned allan gydag ef; ac, wedi ei gymmeryd, amdorrodd arno o achos yr Iwddewon oedd yn y lleoedd hyny, canys gwyddent, bawb o honynt, mai Groegwr oedd ei dad ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dymunodd Paul i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerth ef, ac enwaedu arno o achos yr Iddewon a oedd yn y lleoedd hynny; canys gwyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerth ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag i'r Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhw'n gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Paul am i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerodd ef ac enwaedu arno, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny, oherwydd yr oeddent i gyd yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Paul a ewyllysiai hwn i fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerodd ac a'i henwaedodd ef o achos yr Iuddewon y rhai oedd yn y lleoedd hyny, canys yr oeddent oll yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad ef.