Acts 16:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y managawdd ceidwat y carchar yr ymadraddion hynn i Paul, gan ddyvvedyt, Y llywyawdwyr a dd āvonesont ich gellwng: yn awr am hyny tynnwch ymaith, ac ewch yn heddwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Paul, gan ddywedyd, Danfonodd y swyddogion am eich gollwng yn rhyddion: yn awr, gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Baul: “Anfonodd yr ynadon i’ch gollwng chwi; yn awr, ynteu, dowch ymaith, ac ewch mewn tangnefedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i'ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r swyddog yn dweud wrth Paul, “Mae'r ynadon wedi dweud eich bod chi'ch dau yn rhydd i fynd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddodd ceidwad y carchar y neges hon wrth Paul: "Y mae'r ynadon wedi anfon gair i'ch gollwng yn rhydd. Felly, dewch allan yn awr, ac ewch mewn tangnefedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Cheidwad y Carchar a fynegodd y geiriau wrth Paul, Danfonodd y Llywodraethwyr milwrol am eich gollwng yn rhyddion: yn awr gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch.