Acts 16:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Paul wrthwynt, Gwedy darvot yddwynt ein bayddu yn gyhoedd eb ein barny, a’ ni neu yn Ruuainiait, wy a’n bwriesont yn‐carcar, ac yr owrhon a vynnent wy ein tavlu ni allan yn ddirgel? nac e ðim; eithyr dawant wy, a’ ducant ni allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi ein curo ni yn gyhoedd, heb ein condemnio, a ninnau yn Rhufeinwyr, bwriasant ni i garchar; ac yn awr, ai yn ddirgel y bwriant ni allan? Nid felly; eithr wedi dyfod eu hunain, bydded iddynt ein dwyn ni allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ebe Paul wrthynt, “Fflangellasant ni ar gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, a bwriasant ni yng ngharchar; ac yn awr y maent am ein bwrw ni allan yn ddirgel, aie? Nage’n wir! Eithr deuent hwy eu hunain, a’n dwyn ni allan.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau'n Rhufeinwyr, hwy a'n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wedi'n curo ni'n gyhoeddus a'n taflu ni i'r carchar heb achos llys, a ninnau'n ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhw'n meddwl nawr eu bod nhw'n gallu cael gwared â ni'n ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain i'n hebrwng ni allan!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd Paul hwy, "Cyn ein bwrw ni i garchar, fflangellasant ni ar goedd, heb farnu ein hachos, er ein bod yn ddinasyddion Rhufain. A ydynt yn awr i gael ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nac ydynt, yn wir! Gadewch iddynt ddod eu hunain a'n tywys ni allan."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Y maent wedi ein fflangellu yn gyhoeddus, heb ein heuog‐farnu, a ninau yn Rufeinwyr, a bwriasant ni i garchar; ac yn awr, a ydynt yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond bydded iddynt ddyfod eu hunain, a'n dwyn ni allan.