Acts 16:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oeddent yn ymddeith trwy yr dinasoedd, wy roesont atwynt yr yr athronddysc e y ei gadw, y ddaroeð y ordeiniaw gan yr Apostolon ar Henafeit, y oedd yn‐Caerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac fel yr ymdeithient trwy’r dinasoedd, traddodasant iddynt y dedfrydau i’w cadw, y rhai a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth deithio trwy’r dinasoedd, cyflwynent i’r bobl i’w cadw y gorchmynion a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy'r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw'r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a'r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth deithio o un dref i'r llall roedden nhw'n dweud beth oedd yr apostolion a'r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oeddent yn teithio trwy'r dinasoedd, yr oeddent yn traddodi iddynt, er mwyn iddynt eu cadw, y gorchmynion a ddyfarnwyd gan yr apostolion a'r henuriaid oedd yn Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr ymdeithient trwy y dinasoedd, traddodent iddynt y gorchymynion i'w cadw, ar y rhai y penderfynwyd gan yr Apostolion a'r Henuriaid y rhai oedd yn Jerusalem.