Acts 16:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy athant allan o’r carchar, ac a ddaethant y mewn i duy Lydia: wedy yddwynt welet y broder, ei diddany a’ ’orugant, a mynet ymddaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan o’r carchar, aethant i mewn at Ludia; ac wedi gweled y brodyr, cysurasant hwynt, ac aethant allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi dyfod allan o’r carchar aethant i mewn i dŷ Lydia; a gwelsant y brodyr, a’u hannog; ac aethant ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cysurasant, ac a ymadawsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Paul a Silas yn mynd i dŷ Lydia i gyfarfod y credinwyr a'u hannog nhw i ddal ati, ac wedyn dyma nhw'n gadael Philipi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi dod allan o'r carchar, aethant i du375? Lydia, a gwelsant y credinwyr, a'u calonogi. Yna aethant ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia; ac wedi iddynt weled y brodyr, hwy a'u calonogasant, ac a aethant allan.