Acts 16:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny mynet a wnaethant trwy Mysia, ac a ddaethant y wared y Troas,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned heibio i Musia, daethant i wared i Troas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant heibio i Fysia, a dyfod i lawr i Droas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n mynd trwy Mysia i lawr i ddinas Troas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac aethant heibio i Mysia, a dod i lawr i Troas.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Troas.