Acts 16:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
lle ymðāgoses gweledigaeth i Paul y nos. Bot gwr yno yn sefyl’ o Macedonia, ac yn gweddiaw arnaw, gan ddywedyt, Dyre d y Macedonia, a’ chym p orth ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gweledigaeth, liw nos, a ymddangosodd i Paul: rhyw ŵr o Macedonia oedd yn sefyll ac yn deisyfu arno, ac yn dywedyd, Wedi dyfod trosodd i Macedonia, cymmorth ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ymddangosodd gweledigaeth i Baul liw nos, — rhyw ŵr o Facedonia oedd yn sefyll ac yn deisyf arno ac yn dywedyd, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson honno cafodd Paul weledigaeth — roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymddangosodd gweledigaeth i Paul un noson gu373?r o Facedonia yn sefyll ac yn ymbil arno a dweud, "Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gweledigaeth yn ystod y nos a ymddangosodd i Paul: Rhyw wr o Macedonia oedd yn sefyll, ac yn deisyfu arno ac yn dywedyd, Tyred trosodd i Macedonia, a chymhorth ni.