Acts 17:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC val yr oeddent yn ymddeith drwy Amphipolis, ac Apollonia, wy dd ’aethant i Thessalonica, lle ydd oedd Synagog ir Iuddaeon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi tramwy trwy Amphipolis ac Apolonia, daethant i Thessalonica,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddynt deithio trwy Amffipolis ac Apolonia, deuthant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i'r Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n teithio drwy drefi Amffipolis ac Apolonia a chyrraedd Thesalonica, lle roedd synagog Iddewig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant ar hyd y ffordd trwy Amffipolis ac Apolonia, a chyrraedd Thesalonica, lle yr oedd synagog gan yr Iddewon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt wneyd ei ffordd trwy Amphipolis ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessalonica, lle yr oedd Synagog yr Iuddewon.