Acts 17:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r broder yn y lle a dd anvonesont ymaith Paul ac Silas o hyd nos i Beroia, yr ei gwedy ei dyvot yno, a dd aethan y mywn i Synagogae yr Inddaeon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r brodyr yn uniawn, liw nos, a ddanfonasant ymaith Paul a Silas i Berea; a hwy wedi bod yn sunagog yr Iwddewon, a aethant ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A danfonodd y brodyr Baul a Silas yn ebrwydd o hyd nos i Ferea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma'r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw'n mynd i'r synagog Iddewig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn gynted ag iddi nosi, anfonodd y credinwyr Paul a Silas i Berea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea; y rhai wedi cyrhaedd yno, a aethant i Synagog yr Iuddewon.