Acts 17:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar ei hyn oedd well o enedigaeth nac wyntwy o Thessalonica, yr ei a dd erbyniesont y gair a ei llawnvrydd, gan chwiliaw yr Scrythurae beunydd, y vvybot a ytoedd y pethae hynn velly.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai yn Thessalonica, gan dderbyn o honynt y Gair gyda phob parodrwydd, beunydd yn holi yr Ysgrythyrau a oedd y pethau hyn felly.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd y rhain yn fwy boneddigaidd na’r rhai yn Thesalonica, a derbyniasant y gair gyda phob parodrwydd, gan chwilio’r ysgrythurau beunydd i weld a oedd hyn felly.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na'r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Berea yn fwy agored na'r Thesaloniaid. Roedden nhw'n gwrando'n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio'r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld os oedd y pethau roedd e'n ddweud yn wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rhain yn fwy eangfrydig na'r rhai yn Thesalonica, gan iddynt dderbyn y gair phob eiddgarwch, gan chwilio'r Ysgrythurau beunydd i weld a oedd pethau fel yr oeddent hwy yn dweud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na'r rhai yn Thessalonica, yn gyfryw ag a dderbyniasant y Gair gyda phob brwdfrydedd, gan chwilio yr Ysgrythyrau yn ddyddiol, a oedd y pethau hyn felly.