Acts 17:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny llawer o hanwynt a gredesont, ac o ’roec wragedd syber vvon, ac o wyr nyd ychydig ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer, gan hyny, o honynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llawer ohonynt, felly, a gredodd, ac o’r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr, nid ychydig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o'r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth llawer o'r Iddewon i gredu, a nifer o wragedd pwysig o blith y Groegiaid, a dynion hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, credodd llawer ohonynt, ac nid ychydig o'r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wu375?r.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny yn wir, llawer o honynt a gredasant; ac o'r gwragedd a'r gwyr Groegaidd anrhydeddus, nid ychydig.