Acts 17:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan wybu yr Iuddaeon o Thessalonica, vot hefyt precethy gair Dew gā Paul yn Beroia, wy ðathant yno hefyt, ac a gynyrfesont y torfoeð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan wybu yr Iwddewon o Thessalonica y mynegid Gair Duw yn Berea, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond wedi i Iddewon Thesalonica ddyfod i wybod cyhoeddi o Baul air Duw ym Merea hefyd, deuthant yno i derfysgu a chyffroi’r torfeydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan wybu'r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi'r dyrfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan glywodd Iddewon Thesalonica fod Paul yn cyhoeddi neges Duw yn Berea, dyma nhw'n mynd yno i greu helynt a chynhyrfu'r dyrfa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan wybu yr Iuddewon o Thessalonica fod Gair Duw yn cael ei gyhoeddi yn Berea hefyd gan Paul, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd.