Acts 17:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man yd anvones y broder Paul ymaith y vynet megis ir mor: eithyr Sylas ac Timotheus y arosont ynaw yn ’oystat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yna, yn uniawn, y danfonodd y brodyr Paul ymaith, i fyned hyd at y môr; ac arhosodd Silas a Timotheus hefyd yno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar hynny danfonodd y brodyr Baul yn ebrwydd, i gyrchu tua’r môr; ac arhosodd Silas a Thimotheus yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i'r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Cristnogion yno yn penderfynu anfon Paul i'r arfordir ar unwaith, ond arhosodd Silas a Timotheus yn Berea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y mr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith i fyned hyd at y môr; a Silas a Thimotheus hefyd a arosasant yno.