Acts 17:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei y oeddent yn cyfrwyðo‐fforð i Paul, ei dug e sont ef yd yn Athenas: ac gwedy yddwynt erbyn gorchymyn ar Silas ac ar Timotheus ar yðynt ddyvot ar ffrwst ataw, yr aethant ymaith,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai a arweinient Paul, a aethant ag ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Timothëus ar ddyfod o honynt atto y cyntaf bossibl, aethant ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r rhai a hebryngai Baul, dygasant ef hyd Athen, ac wedi iddynt dderbyn siars i Silas a Thimotheus i ddyfod ato gyntaf y gallent, aethant ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chyfarwyddwyr Paul a'i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth rhai gyda Paul cyn belled ag Athen, ac yna ei adael a mynd yn ôl i Berea gyda chais ar i Silas a Timotheus fynd ato cyn gynted â roedden nhw'n gallu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth hebryngwyr Paul ag ef i Athen, ac aethant oddi yno gyda gorchymyn i Silas a Timotheus ddod ato cyn gynted ag y gallent.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y rhai a dywysent Paul a'i dygasant hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus ar iddynt ddyfod ato gyda phob brys, hwy a aethant ymaith.