Acts 17:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac tra ytoedd Paul yn aros arn addvv yyt yn Athenas, yr ymgythruddawdd ei Yspryt ynthaw, wrth welet y dinas aei goglyd ar ddelwae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn Athen, tra y disgwylid hwynt gan Paul, cynhyrfwyd ei yspryd ynddo wrth weled o hono y ddinas yn llawn o eulunod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddid ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd Paul yn disgwyl amdanyn nhw yn Athen, roedd wedi cynhyrfu'n lân wrth weld cymaint o eilunod oedd yn y ddinas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra bu Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddid ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn Athen tra yr oedd Paul yn eu disgwyl hwynt, ei yspryd a gynhyrfwyd ynddo wrth edrych ar y ddinas yn llawn o eilunod.