Acts 17:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’rhyw Philosophwyr o’r Epicurieit, ac o’r Stoiceit a ymeddadlaesont ac ef, a ’r ei a ðywedent, Pa beth sy ym‐bryd y siaradwr hwn ei ddywedyt? Yr eill a ddyvvedesont, Tebic y vot ef yn vanagwr dewiae dieithr (erwydd iddo precethy yddwynt yr Iesu, a’r cyvodedigaeth.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhai hefyd o’r philosophyddion Epicwraidd a Stoicaidd a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Pa beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? Ac eraill, Duwiau dieithr, debyg, a fynega efe, gan mai yr Iesu a’r adgyfodiad a efengylai efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhai hefyd o’r athronwyr, Epicwriaid a Stoiciaid, a ddadleuai ag ef, a dywedai rhai, “Beth a fynnai’r chwiwleidr yma ei ddywedyd?” Ac ebr eraill, “Ymddengys mai pregethwr duwiau dieithr yw.” Canys traethu’r newydd da yr oedd am yr Iesu a’r atgyfodiad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r philosophyddion o'r Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai'r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu'r Iesu, a'r atgyfodiad, iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd dadl rhyngddo â grŵp o athronwyr, rhai yn Epicwreaid ac eraill yn Stoiciaid. “Beth mae'r mwydryn yma'n sôn amdano?” meddai rhai ohonyn nhw. “Sôn am ryw dduwiau tramor mae e,” meddai eraill. (Roedden nhw'n dweud hyn am fod Paul yn cyhoeddi'r newyddion da am Iesu a'r atgyfodiad.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhai o'r athronwyr, yn Epicwriaid a Stoiciaid, yn dadlau ag ef hefyd, a rhai'n dweud, "Beth yn y byd y mae'r clebryn yma yn mynnu ei ddweud?" Meddai eraill, "Y mae'n ymddangos ei fod yn cyhoeddi duwiau dieithr." Oherwydd cyhoeddi'r newydd da am Iesu a'r atgyfodiad yr oedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai hefyd o'r athronwyr Epicureaidd a Stoicaidd a ymddadleuent ag ef; a rhai a ddywedent, Beth a fyn y clebryn hwn ei ddywedyd? ond eraill, Tebyg yw ei fod yn gyhoeddwr o dduwiau dyeithr; gan ei fod yn pregethu yr Iesu a'r Adgyfodiad.