Acts 17:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr oll Athenieit a’r dieithreit oedd yn preswilio ynaw, nid oeddynt yn cymeryt enhyt y ddim, anid yn aill ai y ddywedyt, ai y glywet ryw beth o newydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
(A’r Atheniaid oll, a’r dieithriaid yn ymdeithio yno, ar ddim arall ni threulient eu hamser ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth newydd.)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(Nid oedd gan yr holl Atheniaid a’r dieithriaid ar ymweliad hamdden i ddim arall ond i adrodd neu glywed rhywbeth newydd sbon.)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A'r holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd yr Atheniaid a'r ymwelwyr oedd yn byw yno yn treulio'u hamser hamdden i gyd yn trafod ac yn gwrando pob syniad newydd!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd gan neb o'r Atheniaid, na'r dieithriaid oedd ar ymweliad 'r lle, amser i ddim arall ond i adrodd neu glywed y peth diweddaraf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(A'r holl Atheniaid, a'r dyeithriaid oedd yn preswylio yno, nid oedd ganddynt hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth oedd fwy newydd).